Back to All Events

Storytelling | Adrodd Straeon

  • The Warehouse Station Road Llandeilo, Wales, SA19 United Kingdom (map)

£20 - includes welcome drink and stew
Sponsored by / Noddir gan The Warehouse

Bilingual session - Sesiwn ddwyieithog

A grown-up night of stories and music, some in English, some in Welsh. Merriment and joy to be had. Pull up a chair and listen to some traditional and not-so-traditional stories from across Wales and the world with Phil Okwedy, Kestrel Morton, Heulwen Williams, and Ceri J Philips

***

Noson o straeon a cherddoriaeth i oedolion, rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg. Digon o hwyl a sbri i’w gael! Dewch i wrando ar rai o straeon traddodiadol a rhai ddim cweit mor draddodiadol o Gymru a’r byd.

***

Heulwen Williams is a Welsh multi-instrumentalist and songwriter, drawing inspiration from folk music and folk traditions to create new bilingual songs that are steeped in history yet speak to the now.

Mae Heulwen Williams yn aml offerynnwr ac yn ysgrifennu caneuon yn tynnu ar ysbrydoliaeth o gerddoriaeth a thraddodiadau gwerinol i greu caneuon dwyieithog newydd sydd yn gyfoethog o hanes ond yn berthnasol i’r nawr. 

Kestrel Morton is a queer, non-binary storyteller based in South Wales. They can usually be found bewitching audiences at festivals, community events and round campfires with tales that blend traditional legends into new myths woven for the world we face today. 

Storïwr cwiar, anneuaidd yw Kestrel Morton, sydd yn byw yn Ne Cymru. Gellir eu ffeindio yn hudo cynulleidfaoedd mewn gwyliau, digwyddiadau cymunedol ac o amgylch coelcerthi gyda straeon sydd yn cymysgu chwedlau traddodiadol gyda rhai newydd, gan eu plethu i’r byd heddiw.  

Phil Okwedy is a performance storyteller. Born in Cardiff to a Welsh mother and Nigerian father, he draws deeply on his dual heritage and multiple cultures and is particularly interested in the ways that folktale, myth and true tale resonate when woven together.

Ganwyd Phil Okwedy yng Nghaerdydd i fam Gymraeg a thad o Nigeria, ac erbyn hyn yn perfformio storïau. Mae’n tynnu yn ddwfn ar ei dreftadaeth a’i ddiwylliannau ddeuol, a mae gyda diddordeb mawr yn y ffyrdd mae straeon gwerinol, chwedlau a straeon gwir yn cyseinio wrth blethu gyda’i gilydd. 

Ceri John Phillips (Gwas Awen) is Cyfarwydd for Bro Dinefwr and Associate Storyteller with People Speak Up, an Arts Charity based in Llanelli. He has previously been an actor, comic, and writer, working for S4C, BBC, ITV, in films, TV shows, radio and on stage.

Ceri John Phillips (Gwas Awen) yw Cyfarwydd i Bro Dinefwr ac yn Storiwr Cysylltiol gyda People Speak Up, elusen celfyddydol wedi'i lleoli yn Llanelli. Bu'n actor, comedïwr, ac awdur o'r blaen, gan weithio ar gyfer S4C, y BBC, ITV, mewn ffilmiau, sioeau teledu, radio, ac ar lwyfan.

Previous
Previous
26 April

Shaping Art in Wales

Next
Next
26 April

John Devereux - DEVS Double Dragon, Double Lion