Y Gŵyl
Mae Gŵyl Lên Llandeilo yn ddathliad mawreddog o ysgrifennu, diwylliant a chreadigrwydd Cymreig, gan gynnig gofod cynhwysol ac ysbrydoledig i bawb.
Eleni, mae’r ŵyl yn dod ag amrywiaeth gyffrous o awduron, beirdd, dramodwyr, storïwyr, artistiaid, gwleidyddion a cherddorion ynghyd, gyda digwyddiadau yn Gymraeg a Saesneg. Bydd cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau sgyrsiau ysgogol, gweithdai creadigol rhyngweithiol, a gŵyl benodedig i blant, sy’n anelu at danio dychymyg ifanc drwy hud storia a gweithdai creadigol, gan gynnwys gwneud modelau ac animeiddio gydag Aardman Animation.
Yn newydd ar gyfer 2025, mae’r ŵyl yn cyflwyno Gŵyl Gerdd @ yr Ŵyl Lên, sef dathliad deuddydd o gerddoriaeth Gymreig, gan ychwanegu elfennau bywiog newydd i’r digwyddiad. Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 26ain, bydd rhai o gerddorion gwerin fwyaf nodedig Cymru yn camu ar y llwyfan, gan ddod â Llandeilo yn fyw gyda cherddoriaeth fyw a hwyl.
Mae cynhwysiant wrth wraidd yr ŵyl. Cynhelir mwy na hanner y sesiynau yn Gymraeg, gyda chyfleusterau cyfieithu ar gael ar gyfer digwyddiadau i oedolion i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Eleni, bydd ffocws arbennig ar gynrychiolaeth ac amrywiaeth, gan godi llais unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae’r ŵyl yn cydweithio gyda Pride Llandeilo i gyflwyno Pride@LitFest, sef rhaglen arbennig o sgyrsiau a digwyddiadau LHDT+ i ddathlu grym adrodd straeon cynhwysol.
Ers ei lansio yn 2016, mae’r ŵyl wedi tyfu o fod yn farchnad lyfrau bach i fod yn un o brif ddigwyddiadau llenyddol De Cymru, gan ddenu ymwelwyr o Landeilo a thu hwnt. Yn 2024, enillodd y wobr Digwyddiad Gorau yn Sir Gaerfyrddin gan Gymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin.
Gyda phaneli awduron, darlleniadau barddoniaeth, perfformiadau byw, cerddoriaeth, a gweithdai creadigol, mae Gŵyl Lên Llandeilo yn ddathliad gwirioneddol o ddiwylliant, iaith a’r celfyddydau Cymreig. Mae’n cynnig rhywbeth i bawb - o ddarllenwyr brwd i deuluoedd sy’n darganfod llawenydd adrodd straeon.
The Festival
The Llandeilo Literature Festival is an award-winning celebration of Welsh writing, culture, and creativity, offering an inclusive and inspiring space for all.
This year’s festival brings together a diverse and exciting line-up of authors, poets, playwrights, storytellers, artists, politicians, and musicians, with events in both Welsh and English. Audiences can enjoy thought-provoking talks, interactive creative workshops, and a dedicated children’s festival, designed to ignite young imaginations through the magic of storytelling and creative workshops including model making and animation with Aardman Animation.
New for 2025, the festival is introducing Music Fest @ the Lit Fest, a two-day celebration of Welsh music, adding a vibrant new element to the event. On Saturday, April 26th, some of Wales’s most acclaimed folk musicians will take to the stage, filling Llandeilo with live music and energy.
Inclusivity is at the heart of the festival. More than half of the sessions are held in Welsh, with translation facilities available for adult events to ensure accessibility for all. This year, there will be a special focus on representation and diversity, amplifying voices from a range of backgrounds. As part of this commitment, the festival is partnering with Pride Llandeilo to present Pride@LitFest, a dedicated program of LGBTQ+ talks and events celebrating the power of inclusive storytelling.
Since its launch in 2016, the festival has grown from a small book fair into one of South Wales’s premier literary events, drawing visitors from Llandeilo and beyond. In 2024, it was named Best Event in Carmarthenshire by the Carmarthenshire Tourism Association.
With author panels, poetry readings, live performances, music, and creative workshops, the Llandeilo Literature Festival is a true celebration of Welsh culture, language, and the arts, offering something for everyone, from lifelong book lovers to families discovering the joy of storytelling.

Gŵyl Plant Llandeilo – Penwythnos Llawn Hwyl a Chreadigrwyd
Ar ddydd Sadwrn y 26ain a Dydd Sul yr 27ain Ebrill o 10am i 4pm, bydd Yr Hen Farchnad yn llawn bwrlwm gyda digwyddiadau adrodd straeon cyffrous, gweithdai ymarferol a phrofiadau hudolus i blant o bob oed.
Beth sydd ar y gweill?
- Cyfarfod ag awduron Cymreig gwobrwyol a mwynhau’r byd straeon yn Gymraeg a Saesneg.
- Creu animeiddiadau dy hun gydag enillwyr Gwobrau’r Academi, Aardman Animation - yn addas i bawb o 5 i 95 oed.
- Mwynhau gweithgareddau creadigol gan gynnwys rhwymo llyfrau, argraffu, crochenwaith, tecstilau, darlunio, barddoniaeth, ysgrifennu creadigol, adrodd straeon a darlunio cartŵn – AM DDIM!
Gyda mynediad am ddim a llu o weithgareddau cyffrous, mae’n benwythnos perffaith i grewyr ifanc, breuddwydwyr a storïwyr y dyfodol.
Mae tocynnau ar gyfer sgyrsiau a gweithdai animeiddio Aardman ar gael ar-lein ar www.llandeilolitfest.org.
Llandeilo Kid’s Fest – A Weekend of Fun and Creativity
Get ready for an unforgettable adventure at Llandeilo Kid’s Fest where stories come to life and imaginations run wild.
On Saturday 26th and Sunday 27th April from 10am to 4pm, Yr Hen Farchnad will be buzzing with exciting storytelling events, hands-on workshops, and magical moments for children of all ages.
Meet award-winning Welsh authors and dive into the world of stories and creative workshops in Welsh and English.
Create your own animations with Academy Award winners Aardman Animation, open to all ages from 5 to 95.
Get creative with FREE bookbinding, printing, pottery, textiles, illustration, poetry, creative writing, storytelling, and cartoon drawing workshops.
With FREE entry and a huge range of exciting activities, it’s the perfect weekend for young creators, dreamers, and future storytellers.
Tickets for talks and the Aardman Animation workshops are available online at www.llandeilolitfest.org.
Ein hanes
Yn 2016, daeth grŵp o awduron lleol at ei gilydd yn Llandeilo i drefnu ffair lyfrau i’w gynnal yn Neuadd Ddinesig y dref. Bryd hynny, roedd gan bob awdur ei stondin ei hun a chynhaliwyd nifer fach o ddarlleniadau a gweithdai.
Y flwyddyn ganlynol, gyda chymorth Gaynor Jones o Landeilo, datblygodd y ffair fechan yn Ŵyl Len â ffocws ar yr iaith Gymraeg a themâu Cymreig. Mae’r ŵyl wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn, ac erbyn hyn yn denu awduron, siaradwyr ac ymwelwyr o bell ac agos. O nofelau a barddoniaeth i wleidyddiaeth a hanes, celf, coginio a cherddoriaeth, mae’r digwyddiad yn parhau i ddathlu gweithiau ysgrifenedig o bob math. Yn 2019, daeth dros 1,000 o ymwelwyr i Landeilo i fwynhau gwledd o sesiynau, a bellach mae’r ŵyl wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Diwylliant Sir Gaerfyrddin ddwywaith.
Yn anffodus am resymau amlwg, bu’n rhaid canslo Gŵyl Len 2020, a threfnwyd sesiynau ar-lein yn 2021. Yn 2022 cynhaliwyd digwyddiad hybrid, gyda hanner y sesiynau ar-lein a’r gweddill yn Hengwrt, sef canolfan gymunedol yn nghanol Llandeilo.
Diolch i waith parhaus a noddwyr haul, dychwelodd yr ŵyl yn ei lawn yn ogoniant yn 2023, ac ailgyflwynwyd digwyddiadau mawreddog gyda’r nos. Oedd y sesiwn ‘Pot Fest at the Lit Fest’, sef dathliad o waith serameg y crochenydd enwog Keith Brymer Jones, yn boblogaidd iawn! Yn ogystal, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau difyr yn Hengwrt, Oriel Mimosa, Diod, Flows, Y Neuadd Ddinesig, The White Hart, heb anghofio am y noson hudolus honno o adrodd straeon yn Y Warws.
Yn ychwanegol i ddegau o sgyrsiau difyr, bydd Gŵyl Lên Llandeilo 2024 yn cynnwys gofod arbennig i blant yn Yr Hen Farchnad, sydd ond dafliad carreg o Hengwrt, ar Stryd Caerfyrddin. Bydd amrywiaeth o weithgareddau yno i ddiddanu’r teulu, gan gynnwys perfformiadau, darlunio, celf a chrefft, gweithdai ysgrifennu a sgyrsiau gan awduron.
Eleni, bydd bron i 40% o sgyrsiau Gŵyl Lên Llandeilo yn y Gymraeg, a gwasanaeth cyfieithu i’r Saesneg yn y mwyafrif. Mae’n uchelgais gan y pwyllgor i drefnu gŵyl gyda 50% o’r sesiynau yn y Gymraeg erbyn 2025.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg ac yn angerddol am lenyddiaeth, hoffwn eich gwahodd i ddod yn ran o bwyllgor yr ŵyl. Rydym hefyd yn chwilio am bobl i ymuno a’n pwyllgor a fyddai’n fodlon cynorthwyo gyda’n cyfryngau cymdeithasol.
Our history
In 2016, a group of local authors got together and organised a book fair in Llandeilo’s Civic Hall. Each author had a small stall, and the group held a selection of readings and workshops during the day. All with the desire to get their books to an audience ever more difficult to reach in the Amazon style of book selling online.
With help from local Welsh speaker Gaynor Jones in 2017 this evolved into a proper Lit Fest with a focus on local Welsh themes and Welsh language. It grew fast in size and scope, inviting speakers from further afield, with a mix of local talent and bigger names. It picked up a diverse range of topics - politics, the environment, gender, art, music, history etc.
The first Lit Fest weekend included over 40 different events, branching out into town, using the function room at the Angel Inn, the Horeb Chapel, Fountain Fine Art Gallery, Oriel Mimosa, the Ginhaus and the Cottage Inn to name a few. In 2019 over 1000 visitors came to Llandeilo and the festival won the Carmarthenshire Excellence in Culture Award for a second time in a row.
Sadly, the 2020 event had to be cancelled due to Covid and in 2021 it had to be held online only. However, in 2022 the festival took a leap of faith and held a smaller but hybrid event, entirely in Hengwrt but streaming half the sessions on the Internet.
Thanks to its success in 2022 and generous, faithful sponsors, 2023 saw the return to a full-scale event with the reintroduction of evening performances, there was a Pot Fest at the Lit Fest and events were held again all over town, at Oriel Mimosa, Diod, Flows, The White Hart and the Warehouse.
From the start in 2017 we defined ourselves as a multi genre, local and Welsh festival with as many Welsh language events as possible and providing simultaneous translation of as many Welsh events into English as possible. Where the language isn’t Welsh, the theme usually is. Our talks spark important conversations and debates affecting our lives in Wales and we are proud to be the only festival in Wales with such a focus on Welsh literature. This year almost 40% of our talks will be in the Welsh language, with English translation available for most. We have a goal to reach 50% Welsh language for next years’ festival.
If you are a Welsh speaker and passionate about literature, we would love you to join the lit fest committee. We are also looking for younger people to join our committee and those who would be willing to help with our social media.