Back to All Events

O'r Rhuddin - Sioned Erin Hughes

  • Hengwrt 8 Carmarthen Street Llandeilo, Wales, SA19 6AE United Kingdom (map)

This session now starts at 1pm

£6

Sesiwn yn y Gymraeg - Session in Welsh

Ymateb yr awdur Sioned Erin Hughes i fywyd, y byd, ei broblemau a'i bleserau yn ystod blwyddyn gyfan o ysgrifennu. Fe luniwyd un darn ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn a rhannwyd nhw ar gyfrif Instagram awdur.

***

Award-winning poet Sioned Erin Hughes responds to life, its problems and pleasures by writing a poem for every day of the year and sharing them on her Instagram account.

***

Bywgraffiad Sioned Erin Hughes

Graddiodd Erin mewn Cymdeithaseg a Chymraeg o Brifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Yr Athro Gerwyn Wiliams yn ddiweddarach.

Erin oedd curadur a golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa), sy’n cynnwys straeon 12 o bobl ifanc sy’n byw, neu’n dioddef â chyflyrau iechyd corfforol a/neu feddyliol hirdymor. Enillodd y llyfr hwn Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac yn 2020 hefyd y cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, sef Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch). Yn 2022, enillodd y Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion am ei chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom (Gwasg y Lolfa). Bydd ei chyfrol nesaf o waith gyda'r wasg yn cael ei chyhoeddi o dan y teitl O'r Rhuddin fis Mawrth eleni. Erbyn hyn, mae Erin weithiwr creadigol llawrydd ac yn treulio'i hamser yn ysgrifennu, darllen a chynnal gweithdai. Mae hi hefyd yn dod at ddiwedd ei chyfnod fel un sy'n rhan o garfan Cynrychioli Cymru 2023-24 - rhaglen a gynhelir dan adain Llenyddiaeth Cymru.

***

Biography

Erin graduated in Sociology and Welsh from Bangor University, and later followed a Master's course in Creative Writing under the guidance of Professor Gerwyn Wiliams.

Erin was the curator and editor of the book Byw yn fy Nghroen (Gwasg y Lolfa), which includes the stories of 12 young people who live with, or suffer from, long-term physical and/or mental health conditions. This book won the Tir na n-Og Award in 2020, and in 2020 she also published her first book for children, Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch). In 2022, she won the Prose Medal in Ceredigion for her first book for adults, Rhyngom (Gwasg y Lolfa). Her next volume of work with the press will be published under the title O'r Rhuddin this March. Erin is now a freelance creative worker and spends her time writing, reading and holding workshops. She’s also nearing the end of her time as one of the Representing Wales crew for 2023-24 - a programme held by Literature Wales.

Previous
Previous
27 April

Flags and Bones - Ben Wildsmith, Adam Price

Next
Next
27 April

Choir, Hengwrt Foyer | Côr, Cyntedd Hengwrt