£8
Sesiwn yn y Gymraeg. Sessiom in Welsh with simultaneous translation
Mae ‘Hallt’, enillydd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol 2023, yn stori afaelgar am fam a'i merch 16 oed Cari ag anghenion arbennig. Faint o ryddid ddylai rhieni Cari adael iddi ei gael?
***
Winner of 2023 The National Eisteddfod Prose Medal, Hallt is a compelling story about a mother and her 16-year-old daughter Cari with special needs. How much freedom should Cari’s parents let her have?
***
‘Efallai ei bod hi’n bryd rhoi allwedd ei bywyd yn ei dwylo hi, gadael iddi deimlo’r byd yn ei ffordd ei hun a derbyn y byddai, wrth wneud hynny, yn cael ei brifo.’
Mae’r byd i gyd o flaen Cari. Mae hi’n 16 oed ac yn dyheu am ei rhyddid. I Elen mae hynny’n destun pryder. Mae Cari’n wahanol i’w ffrindiau a greddf ei mam yw ei gwarchod. Ond wrth i’w merch ddiniwed ddatblygu’n ddynes ifanc rhaid i Elen ddysgu i fyw’n gyfforddus gyda gollwng gafael ar ei merch wrth iddi gamu i fywyd fel oedolyn.
Portread sensitif a threiddgar o berthynas mam a merch sy’n caniatáu i’r darllenydd ddod i adnabod Cari ac Elen fel unigolion a gweld y byd trwy eu llygaid nhw.
‘Mae llaw gelfydd a sicr y llenor ar waith yma.’ Ion Thomas
‘Mae’r stori’n cydio o’r bennod gyntaf drawiadol, gan adeiladu’n raddol at uchafbwynt dramatig... Dyma nofel dyner, brydferth am y cwlwm rhwng mam a merch, ac am dderbyn pobl fel maen nhw.’ Menna Baines
‘Mae’n nofel ingol ar un ystyr, ac yn un sy’n dawel ddyrchafol hefyd, yn llawn o synwyrusrwydd a gobaith.’ Lleucu Roberts
Bywgraffiad:
Enillodd Meleri Wyn James y Fedal Ryddiaith y Eisteddfod Llyn ac Eifionydd 2023 am ei nofel Hallt. Cyhoeddodd lyfrau ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion, gan gyhoeddi ei chyfrol gyntaf yn 21 oed ar ôl ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yn Nhaf-Elai. Hi yw awdur y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant. Cafodd storïau Nel eu haddasu i’r theatr ddwywaith a’u perfformio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2022 a 2023. Cafodd ei geni yn Llandeilo ond mae bellach mae hi’n byw yn Aberystwyth gyda’i theulu. Mae hi’n aelod o Glwb Athletau Aberystwyth ac yn mwynhau rhedeg a reidio ceffylau.
***
‘Perhaps it was time to put the key to her life in her hands, to let her feel the world in her own way and to accept that in doing so she would be hurt.’
The world is in front of Cari. She is 16 years old and longs for her freedom. To Elen, this is cause for concern. Cari is different to her friends and her mother’s instinct is to protect her. But as her innocent daughter develops into a young woman Elen must learn to be at ease and to let go of her daughter as she steps into adulthood.
A sensitive portrayal of the relationship between mother and daughter which allows the reader to get to know Cari and Elen as individuals and to see the world through their eyes.
‘The hand of the artist is at work here.’ Ion Thomas
‘The story grabs the reader from the first impressive chaper, building slowly to the dramatic conclusion... Here is a beautiful and tender novel about the bond between mother and daughter and about accepting people the way they are.’ Menna Baines
‘It is a poignant novel in one sense, and also quietly uplifting, full of sensitivity and hope.’ Lleucu Roberts
Biog:
Meleri Wyn James won the Prose Medal at the National Eisteddfod in Llyn and Eifionydd in 2023 for her novel Hallt (Salty). She has written books for children, young people and adults, publishing her first book of short stories when she was 21 years old after winning the Literature Medal at the Urdd Eisteddfod in Taff-Ely. She is the author of the popular series Na, Nel! for children. Nel’s stories were adapted twice for the theatre and performed at the National Eisteddfod Pavilion, in 2022 and 2023. Born in Llandeilo she now lives in Aberystwyth with her family.