£8
Sesiwn yn y Gymraeg - Session in Welsh with simultaneous translation
Newyddiadurwyr. Nid pawb sy'n eu hoffi nhw. Ond yn y digwyddiad hwn, bydd gwaith y newyddiadurwyr diflino yn y llyfr "Fy Stori Fawr" yn cael ei ddathlu. O ddioddef PTSD wedi gohebu ar ryfel, i'r boddhâd o sicrhau sgŵp, i'r dyfalbarhad sydd ei angen i ymchwilio stori does neb eisiau i chi ei ddatgelu - byddwn ni'n trafod y cyfan.
Wedi'r holl sylw diweddar i sgandal y Swyddfa Bost, bydd Gwenfair Griffith yn trafod â un o'r newyddiadurwyr cyntaf i ohebu ar yr hanes, Sion Tecwyn.
Dewch i glywed beth sydd ei angen er mwyn datguddio un o anghyfiawnderau mwyaf system gyfiawnder y Deyrnas Unedig.
Fe gwympodd Gwenfair Griffith mewn cariad â newyddiaduraeth tra'n astudio'r pwnc yn Toronto yn ei hieuenctid ffôl. Ar ôl blynyddoedd o ohebu i'r BBC yng Nghymru, aeth i fyw yn Sydney am gyfnod gan weithio ar ddesg dramor ABC News ac i dîm arlein SBS World. Nôl adre yng Nghymru, aeth i weithio'n llawrydd gan wneud amrywiaeth o waith yn cynnwys darlithio newyddiaduraeth ym mhrifysgol Caerdydd, cynhyrchu dogfennau i S4C a BBC Radio Cymru a chyd-gyflwyno rhaglen radio'r gorfforaeth am faterion crefyddol, Bwrw Golwg. Roedd holi rhai o newyddiadurwyr gorau Cymru am stori bwysig yn eu gyrfa yn fraint, ac roedd sgwennu "Fy Stori Fawr" yn bleser. Mae Gwenfair yn byw yn ei dinas enedigol, Caerdydd, gyda'i gwr a'u meibion hyfryd.
***
Journalists. Some people hate them, others love them. This event celebrates the hard work of dedicated journalists featured in the book, "Fy Stori Fawr." From PTSD post war reporting, the exhilaration of securing a scoop, to the dedication needed to investigate a story no one wants to be told : We'll reveal all. Just what does it take to uncover one of the biggest miscarriages of justice in UK history?
Gwenfair Griffith talks to one of the first journalists to report on the Post Office Scandal, Sion Tecwyn.
Journalist and Editor of "Fy Stori Fawr" Gwenfair Griffith has worked for the BBC for around 15 years, ABC News and SBS News in Sydney for two years, and has been freelancing now for around 3. She lectured journalism at Cardiff University for a year and her book on Welsh reporter's big stories, "Fy Stori Fawr" was published in 2023. She now produces documentaries for S4C and BBC Radio Cymru and co-presents BBC Cymru's religious affairs programme, Bwrw Golwg.
Originally from Anglesey, Sion Tecwyn worked for the BBC, firstly as a sub-editor, and then a reporter mainly for "Newyddion" in North Wales. During that time he covered a variety of stories, including the first broadcast interview in 2009 about what has now become known as "the Post Office Scandal" at a time when it got very little attention from most other media outlets.