£6
Sesiwn yn y Gymraeg - Session in Welsh with simultaneous translation
Y Sioe Fawr – ac yn benodol, adran y ceffylau – yw cefndir y nofel hon, ac unwaith eto mae’r ditectif prysur Daf Dafis yn cael ei hun yn arwain achos sydd yn rhyfedd, a dweud y lleiaf, pan mae rhannau o gorff dyn yn cael eu darganfod mewn bocs o selsig yn y Neuadd Fwyd.
Mae llawer iawn o ddarllenwyr nofelau Myfanwy wedi dotio at Daf Dafis – yr heddwas golygus, rhywiol sy’n gwneud popeth yn Gymraeg – ac mae’r awdur ei hun o’r un farn! ‘Dwi wedi syrthio dros fy mhen a’m clustie mewn cariad efo Daf Dafis,’ cyfaddefa Myfanwy, ‘a dwi’n mwynhau treulio amser yn meddwl amdano fo. Hefyd, er gwaetha’i gryfder, yn y nofel hon mae o’n ysu i gael ei dderbyn gan gymuned Bryn y Ceffylau. Roedd yn hwyl cael ei roi o mewn sefyllfa lle roedd o chydig allan o’i comfort zone!’
Dewch i glywed Myfanwy yn trafod y nofel ddiweddaraf yn y gyfres sydd wedi gwerthu orau gyda Bethan Gwanas.
***
The Royal Welsh Show - and specifically, the horse department - is the background of this novel, and once again the busy detective Daf Dafis finds himself leading a case that is strange, to say the least, when parts of a man's body are found in a box of sausages in the Food Hall.
Chair: Bethan Gwanas.